TGAU Busnes

Mae astudio busnes yn helpu dysgwyr i ddeall gwahanol fodelau, sectorau ac economïau busnes o safbwynt lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac i werthfawrogi’r realiti economaidd sy’n newid o hyd ac sy’n siapio Cymru a’r byd ehangach.

Bydd TGAU Busnes yn darparu profiad dysgu unigryw a chynhwysol sy’n caniatáu i ddysgwyr ddeall yr effaith y mae busnes yn ei gael ar bobl a chymdeithas trwy gysyniadau busnes go iawn fel menter, arloesi, cynaliadwyedd a moesau.

Bydd dysgwyr yn datblygu hyder ac uchelgais er mwyn archwilio sut y gall busnesau barhau’n hyfyw, yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion a heriau’r dyfodol.

Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o:

  • Fodelau busnes, sectorau, ac economïau gwahanol o safbwynt lleol, cenedlaethol, a’r byd yn ehangach.
  • Y berthynas rhwng yr amgylchedd a gweithgarwch busnes ac arloesi.
  • Yr ystyriaethau a'r goblygiadau moesegol i fusnesau.
  • Sut mae busnes yn cael ei effeithio gan rôl awdurdod a llywodraeth.
  • Rôl menter a thechnoleg mewn economïau lleol ac economïau ehangach Cymru, y DU a’n fyd-eang, a'i effaith ar bobl, lleoedd, a chymuned.

Mae'n rhaid i ddysgwyr hefyd ddangos eu bod nhw'n gallu:

  • Defnyddio sgiliau ymholi, ymchwilio, archwilio, a dadansoddi er mwyn cefnogi eu hymchwiliadau.
  • Gwerthuso a dadansoddi data yn feirniadol.
  • Defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o heriau busnes sy’n bodoli yn y byd go iawn er mwyn gwneud penderfyniadau ac i ddatrys problemau.
  • Gwneud cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd ac anghyfarwydd, gan ddangos dealltwriaeth o'r realiti economaidd o'u cwmpas.

Caiff y cynnwys a'r asesu eu strwythuro o amgylch y themâu canlynol:

  • Technoleg a'i effaith ar fusnes, ar yr amgylchedd, ac ar bobl.
  • Cynaliadwyedd: y goblygiadau amgylcheddol i fusnesau a modelau busnes sy'n cefnogi'r amgylchedd naturiol.
  • Menter ac entrepreneuriaeth.
  • Llywodraethu a moeseg.
  • Yr amgylchedd allanol a'i effaith ar fusnes.

Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i archwilio themâu trawsgwricwlaidd y Cwricwlwm i Gymru, sef: hawliau dynol ac amrywiaeth; addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith.

Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?

  • Project ymchwil ymholi (30%) Bydd yr asesiad yma’n cael ei osod gan y corff dyfarnu, yn cael ei farcio gan athrawon, a'i gymedroli gan y corff dyfarnu.
  • Asesiad di-arholiad (20%) Gallai’r asesiad di-arholiad yma gynnwys ymarfer gwneud penderfyniad neu werthuso beirniadol ar ffurf astudiaeth achos. Bydd tasgau’n cael eu gosod gan y corff dyfarnu a naill ai yn cael eu marcio gan athrawon a’u cymedroli gan y cord dyfarnu, neu eu marcio gan y corff dyfarnu. Bydd pob asesiad di-arholiad yn cael ei gyflwyno o fewn blwyddyn olaf y cwrs.
  • Arholiadau (50%) Bydd pob arholiad yn cael ei sefyll ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd.

I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.

Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.

Diweddaru: 14 Rhag 2023, 01:55 PM