Mae dysgwyr yn caffael ac yn datblygu eu sgiliau iaith ar wahanol gyflymder, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n astudio Cymraeg mewn ysgolion Saesneg. Mae'r cymhwyster ychwanegol yma wedi'i anelu at ddysgwyr sy'n astudio TGAU Cymraeg Craidd ac sy'n barod i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
Bydd y Dyfarniad Lefel 2mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol newydd yn cynnig cyfle i ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg i fagu profiad a hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd a symud ymlaen yn gynt ac ymhellach ar hyd y continwwm ar gyfer dysgu Cymraeg.
Bydd y cymhwyster ychwanegol hwn yn ysbrydoli dysgwyr ac yn rhoi’r hyder a'r uchelgais iddyn nhw ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn eu bywyd, eu dysgu a'u gwaith.
Sut mae'r cymhwyster yn edrych?
Bydd y cymhwyster yn cynnwys dwy uned o faint cyfartal:
Bydd un uned yn canolbwyntio ar gyfathrebu llafar estynedig: deall, ymateb a sgwrsio’n ddigymell
Bydd un uned yn canolbwyntio ar ysgrifennu estynedig. Gan ymateb i'r pwnc 'Y Gymraeg yn fy Ardal i', bydd dysgwyr yn ymchwilio, yn cynllunio ac yn defnyddio eu sgiliau iaith i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd wreiddiol
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd yr uned cyfathrebu llafar estynedig yn asesu gallu dysgwr i:
Gyfathrebu'n ddigymell ac i ryngweithio â siaradwyr cyfarwydd ac anghyfarwydd.
Cyfathrebu gwybodaeth, dealltwriaeth, syniadau, barn a theimladau.
Ymateb i farn eraill.
Defnyddio iaith idiomatig, cywair priodol, goslef priodol a dealltwriaeth o ramadeg i gyfoethogi mynegiant mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Bydd yr uned ysgrifennu estynedig yn asesu gallu dysgwr i:
Ymchwilio a deall testunau amrywiol.
Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i grynhoi, coladu, cymharu a dadansoddi gwybodaeth.
Cyfathrebu a chyfleu ystyr yn ysgrifenedig.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd cyfathrebu llafar estynedig yn cael ei asesu trwy siarad a gwrando. Bydd yr uned hon yn cael ei hasesu gan y corff dyfarnu gan ddefnyddio dulliau digidol, a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gyfathrebu a rhyngweithio ar lafar mewn modd digymell.
Bydd ysgrifennu estynedig yn cael ei asesu drwy ddarllen ac ysgrifennu. Bydd yr uned hon yn cael ei hasesu gan athrawon a'i chymedroli gan y corff dyfarnu.
Bydd y cymhwyster yn cynnig ardystio unedau ar gyfer dysgwyr sy'n llwyddo i gwblhau pob uned. Bydd unedau'n cael eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Gall dysgwyr sydd wedi cwblhau'r ddwy uned yn llwyddiannus ennill Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.