Bydd y cymhwyster newydd sbon hwn yn helpu dysgwyr i ddatblygu ac arddangos y wybodaeth a’r sgiliau rhifol maen nhw eu hangen ar gyfer cyflogaeth, bywyd bob dydd a dysgu pellach. Mae wedi cael ei ddatblygu ochr yn ochr â chyflogwyr a darparwyr addysg ôl 16 oed er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y sgiliau mathemategol sydd eu hangen fwyaf ar bobl ifanc.
Rydyn ni’n disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cyflawni’r cymhwyster hwn wrth astudio ar gyfer TGAU Mathemateg a Rhifedd. Bydd yn cael ei ddylunio i'w addysgu ochr yn ochr â’r cymhwyster TGAU a bydd yn datblygu hyder dysgwyr mewn mathemateg yn ogystal â’u gwerthfawrogiad o fathemateg mewn bywyd bob dydd.
Caiff y cymhwyster ei asesu trwy gyfrwng un asesiad, ar-y-sgrîn ac ar alw fel bod dysgwyr yn gallu cwblhau eu cymhwyster pryd bynnag y byddan nhw’n barod.
Beth yw pwrpas y cymhwyster?
Fe’i dyluniwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed
Mae’n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru
Mae’n adeiladu ar yr addysgu a'r dysgu a gwblhawyd erbyn diwedd Blwyddyn 9
Mae’n rhoi tystiolaeth o allu dysgwyr i weithredu'n rhifiadol yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd.
Mae’n datblygu hyder a chymhwysedd dysgwyr wrth ddefnyddio eu sgiliau mathemategol.
Mae’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu mwynhad ac agwedd gadarnhaol tuag at fathemateg yn ogystal â gwerthfawrogi defnyddio mathemateg mewn bywyd bob dydd.
Ar beth fydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd gofyn i ddysgwyr ddangos a defnyddio eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau yn y meysydd canlynol:
rhif
mesur
data.
Sut bydd dysgwyr yn cael eu hasesu?
Bydd y cymhwyster yn cael ei asesu'n gyfan gwbl ar-y-sgrîn, trwy arholiad allanol.
Bydd ar gael ar alw, sy'n golygu y bydd dysgwyr yn gallu ei sefyll pan fyddan nhw'n barod.
Bydd rhai cwestiynau'n asesu sgiliau heb gyfrifiannell tra bydd cwestiynau eraill yn caniatáu defnyddio cyfrifiannell.
Bydd y cymhwyster yn cael ei raddio fel pasio neu fethu. Bydd dysgwyr yn cael adborth ar eu perfformiad i’w helpu i nodi cryfderau ac ardaloedd i'w gwella.
Bydd yr asesiad yn cael ei farcio'n awtomatig a bydd canlyniadau ar gael cyn gynted ag y bydd dysgwr wedi cwblhau'r asesiad.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ailsefyll yr asesiad os bydd angen.
I gael rhagor o fanylion am bwrpas a nodau, cynnwys a threfniadau asesu'r cymhwyster yma, darllenwch y cynnig dylunio llawn.
Mae fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc hefyd ar gael.