Buom yn ymgynghori’n ddiweddar ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu hyrwyddo argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg a hwyluso mynediad atynt.
Roedd un o'r themâu a gododd o'n hymgynghoriad yn ymwneud â'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i randdeiliaid ar ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW). Roedd rhai ymatebwyr yn cwestiynu a yw'r wybodaeth ar QiW yn dangos yn glir i ba raddau y mae cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwyddom fod ysgolion a cholegau yn defnyddio’r wybodaeth ar QiW i gynllunio eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. I wneud hyn, gallant chwilio am gymwysterau sydd ar gael yn ‘gyflawn’ ac yn ‘rhannol’ yn Gymraeg. Fodd bynnag, nid yw QiW ar hyn o bryd yn darparu unrhyw fanylion ychwanegol ynghylch natur yr argaeledd rhannol hwnnw. Er enghraifft, cyfran y cymhwyster, neu pa unedau neu gydrannau penodol sydd ar gael yn Gymraeg, yn ogystal ag unrhyw adnoddau a deunyddiau ategol.
Hoffem glywed eich barn ar y canlynol:
a fyddai gwybodaeth ychwanegol am gymwysterau cyfrwng Cymraeg ar QiW yn ddefnyddiol o safbwynt cynllunio'r cwricwlwm
pa fath o wybodaeth ychwanegol yr hoffech ei weld
ar ba ffurf y gallai gwybodaeth ychwanegol fod yn ddefnyddiol ar QiW
Ymatebwch i'r arolwg hwn erbyn dydd Gwener 21 Gorffennaf.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.