Ein Dull Arfaethedig o Ddynodi Cymwysterau 14-16

Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni am gael eich barn chi yn ein hymgynghoriad ar ein dull arfaethedig o ddynodi cymwysterau 14-16.

Beth yw Dynodi?

Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, rydyn ni’n penderfynu pa gymwysterau sy'n gymwys i'w defnyddio ar gyrsiau addysg neu hyfforddiant a gaiff eu hariannu’n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.

Rydyn ni’n gwneud hyn mewn dwy ffordd: yn gyntaf, drwy gymeradwyo cymwysterau sydd wedi'u datblygu'n benodol i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru, ac yn ail drwy ganiatáu i gymwysterau sydd wedi’u dylunio’n bennaf ar gyfer dysgwyr mewn mannau eraill gael eu dynodi i'w defnyddio yng Nghymru.

Rydyn ni’n rhestru’r holl gymwysterau cymeradwy a dynodedig yn ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW).

Ein Dull Arfaethedig

Gyda chwricwlwm newydd yn cael ei addysgu mewn ysgolion, rydyn ni wedi cyhoeddi gofynion ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 cymeradwy newydd. Bydd y cymwysterau hyn yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol ar gyfer pob cymhwyster 14-16 a ariennir yn gyhoeddus a byddant yn darparu cyfres gynhwysol, ddwyieithog o gymwysterau y gall canolfannau ddewis eu cynnig i'w dysgwyr.

Wrth i Gymwysterau Cenedlaethol cymeradwy newydd gael eu haddysgu o 2025, byddant yn disodli'r rhan fwyaf o’r cymwysterau cyn-16 eraill a ariennir yn gyhoeddus sydd ar gael ar hyn o bryd. Felly, dim ond mewn rhai amgylchiadau eithriadol y byddwn ni’n dynodi cymwysterau i bobl ifanc 14-16 oed.

Bwriad ein polisi yw mai dim ond cymwysterau sy'n bodloni pob un o’n hegwyddorion arweiniol ac nad ydynt yn tanseilio ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru fydd yn cael eu dynodi gennym.

Os nad yw cymhwyster yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol ac er mwyn lleihau'r risg o ddileu unrhyw gymwysterau sy'n diwallu anghenion lleiafrif bach o ddysgwyr, byddwn yn caniatáu i gyrff dyfarnu wneud cais i’w eithrio o’n hegwyddorion arweiniol ar y sail y gall fodloni set gyfyngedig o feini prawf.

Dweud eich Dweud

Rydyn ni am glywed eich safbwyntiau chi ar ein meini prawf eithrio arfaethedig ar gyfer dynodi cymwysterau 14-16, yn ogystal â'r ffactorau a'r dystiolaeth y dylem eu hystyried wrth benderfynu gwneud eithriadau i'n hegwyddorion arweiniol. Rydyn ni hefyd am glywed eich barn chi am unrhyw effeithiau nad ydynt wedi’u nodi eto yn sgil ein dull ehangach o ddynodi.

Gallwch chi ddarganfod mwy drwy ddarllen ein dogfen ymgynghori, ein Polisi a Rheolau Dynodi diwygiedig, a’n Hasesiad Effaith Integredig.

Bydd ein hymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos, gan ddod i ben ddydd Mawrth 14 Mai 2024. Dweud eich dweud a helpwch i lywio ein penderfyniadau drwy gwblhau'r arolwg byr isod.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.

  • Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.

    Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau ymateb caeedig a'r opsiwn o ddweud mwy wrthym yn eich geiriau eich hun.

    Os ydych chi'n teimlo bod rhai cwestiynau'n llai perthnasol i chi, gallwch eu hepgor.

    Nid oes yn rhaid i chi gwblhau'r arolwg cyfan ar yr un pryd - gallwch ddychwelyd i'w orffen trwy glicio "arbed a pharhau" ar waelod y dudalen. Fodd bynnag, er mwyn i ni gael eich adborth ar y cynigion, pwyswch “cyflwyno” ar ddiwedd yr arolwg.

Diweddaru: 15 Mai 2024, 08:18 AC