Skip to content
Skip to content

Cynnig 2 - Model Cymwysterau




Mae'r model yn cynrychioli cyfres newydd o dri chymhwyster lletygarwch ac arlwyo ar lefelau 1, 2 a 3. Mae'n cynnig, ar lefel 1, y byddai cymhwyster rhagarweiniol sy'n cwmpasu sgiliau a gwybodaeth dechnegol ymarferol sylfaenol am y diwydiant lletygarwch ac arlwyo ac sy’n cynnwys unedau craidd ar sgiliau rhyngbersonol a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid sylfaenol.  Ar lefel 2 a 3 mae'r model yn cynnig cymwysterau lletygarwch ac arlwyo newydd, a ddatblygwyd i ddiwallu anghenion colegau addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau) er mwyn caniatáu ystod y llwybrau y gall dysgwr eu dilyn.

Nododd yr Adolygiad y byddai pob dysgwr yn elwa ar graidd dysgu cyffredin, a fyddai'n eu paratoi’n well ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol (a allai fod yn hyblyg ac amrywiol) ac y byddai dysgwyr yna’n elwa ar arbenigo naill ai mewn sgiliau coginio neu mewn sgiliau lletygarwch. Byddai'r craidd yn cynnwys unedau ar natur y diwydiant a sgiliau sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, wedi'u haddasu ar gyfer pob lefel o ddysgwr.

Byddai gan bob un o'r cymwysterau newydd lwybrau dewisol o letygarwch neu goginio neu gyfuniad o'r ddau, gydag unedau diwydiant a gwasanaeth/cysylltiadau cwsmeriaid a rennir. Byddai hyn yn sicrhau na chollir ystod y llwybrau yn y cymwysterau lletygarwch ac arlwyo presennol. Byddai'r unedau dewisol ar gyfer lletygarwch a choginio hefyd yn gallu cael eu darparu fel unedau annibynnol ar gyfer cyrsiau byr neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Byddai'r unedau'n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol perthnasol er mwyn sicrhau y bydden nhw’n gymwys i'w defnyddio ar raglenni prentisiaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ymgynghoriad Lletygarwch ac Arlwyo
Mynd at yr ymgynghoriad