Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 mewn amgylchedd adeiledig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant a pheirianneg
Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn am eich barn ynghylch a ddylai Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd mewn tri phwnc - yr amgylchedd adeiledig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant a peirianneg - gael eu cynnig fel TAAU neu fel TGAU.
TAAU | Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd |
TGAU | Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd |
Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o’r hyn sy’n debyg a’r hyn sy’n wahanol rhwng y TAAU newydd sbon a TGAU.
Nodwedd | TAAU | TGAU |
Maint | 120-140 oriau dysgu dan arweiniad | 120 -140 oriau dysgu dan arweiniad (ar gyfer graddau unigol) |
Lefel | Lefel 1 / 2 | Lefel 1 / 2 |
Graddio | Llwyddo/Teilyngdod/Rhagoriaeth/Rhagoriaeth* (i'w gadarnhau) | A*-G |
Maes ffocws | Meysydd galwedigaethol eang | Disgyblaethau pwnc o fewn meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru |
Gradd y rhagnodi | Mwy o hyblygrwydd i gyrff dyfarnu o ran cynnwys ac asesu'r cymwysterau hyn | Cynnwys manwl wedi’i ragnodi gan ddefnyddio meini prawf cymeradwyo, gyda dim ond ychydig o hyblygrwydd i gyrff dyfarnu o fewn y cymwysterau |
Asesu | Cyfran is o asesiadau allanol (mae rhagdybiaeth weithredol y bydd rhwng 20% a 40% o asesiadau’r cymwysterau’n angen cael eu marcio’n allanol) | Yn gyffredinol, lefelau uwch o reolaeth ar asesiadau mewnol gydag arholiadau allanol yn nodwedd gyffredin ym mron pob pwnc (gan amrywio o 60% i 100% ym mhob pwnc heblaw celf a dylunio) |
Dilyniant | Cefnogi dilyniant astudiaethau ôl-16, neu ddysgu seiliedig ar waith | Cefnogi dilyniant i astudiaethau ôl-16, neu ddysgu seiliedig ar waith |
Er ein bod eisoes wedi cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo TGAU ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant a pheirianneg, rydym yn awyddus i glywed eich barn ar gynnig y pynciau hyn, ac amgylchedd adeiledig, fel TAAU yn hytrach na’r TGAU a gynigiwyd yn wreiddiol.
Gallwch ddysgu mwy trwy ddarllen ein dogfen ymgynghori a’n hasesiad effaith integredig.
Bydd ein hymgynghoriad yn cael ei gynnal am bron i wyth wythnos, gan ddod i ben ddydd Llun 10 Mehefin 2024.
Ewch ati i ddweud eich dweud a’n helpu i ddod i benderfyniad drwy gwblhau'r arolwg wyth cwestiwn byr.