Arolwg Adolygiad Cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Rydym yn cynnal adolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Nod yr adolygiad yw casglu tystiolaeth gan ein rhanddeiliaid allweddol a derbyn adborth ar ba mor addas i'r diben yw cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Y nod hefyd yw nodi unrhyw faterion neu awgrymiadau sy'n codi o'r adborth a'r dystiolaeth, ac ystyried pa newidiadau neu ddiwygiadau y gallai fod eu hangen i sicrhau bod cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn parhau i ddiwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Mae'r arolwg ar-lein yma yn un o nodweddion canolog ein hadolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru a bydd yn helpu i adeiladu ar ganfyddiadau ein cyfweliadau hefo darparwyr dysgu a’n hadolygiad technegol o'r cymwysterau a’u hatgyfnerthu.

Mae’r arolwg wedi’i rannu’n bedair adran, pob un wedi’i thargedu at set benodol o randdeiliaid:

  1. Darparwyr dysgu (y rhai sy'n dysgu, yn asesu a/neu’n goruchwylio'r broses o gyflwyno'r cymwysterau). Mae hyn yn cynnwys ysgolion, colegau, addysg gymunedol i oedolion, dysgu seiliedig ar waith a darparwyr hyfforddeiaethau.

  1. Dysgwyr - y rhai sy'n cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru neu sydd wedi eu cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

  1. Cyflogwyr, gan gynnwys y rhai sy'n rheoli prentisiaid a hyfforddeion sy'n cwblhau cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru neu sydd wedi ei gwblhau.

  1. Partïon eraill sydd â diddordeb fel cyrff proffesiynol, cyrff dyfarnu a rhieni/gwarcheidwaid.

Bydd gennych yr opsiwn i gwblhau'r arolwg sy'n adlewyrchu eich rôl a'ch profiad orau o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.

Bydd eich mewnbwn yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i lywio cyfeiriad cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn y dyfodol felly peidiwch â cholli'r cyfle pwysig hwn.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos, nos Wener 07 Gorffennaf 2023.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch drwy anfon e-bost atom yn SgiliauHanfodolCymru@cymwysterau.cymru

Mae'r ymgynghoriad yma bellach ar gau.

Diweddaru: 11 Rhag 2023, 04:36 PM